Menter a Busnes



 

Newyddion a Digwyddiadau

HAU HADAU : MEDI'R NEWID: LANSIO LLYFR NEWYDD YN Y SIOE FAWR

Bydd llyfr newydd sy'n olrhain hanes cynllun arloesol sydd wedi gweithio gyda dros 1,000 o ffermwyr ar draws Cymru yn cael ei lansio yn y Sioe yn Llanelwedd eleni.

Bydd Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig yn lansio ‘Hau Hadau : Medi‘r Newid‘ yn adeilad S4C ar faes y Sioe ar ddydd Mawrth 20fed o Orffennaf.

Cyhoeddir y llyfr gan Menter a Busnes, sy‘n rheoli cynllun Agrisgop ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru a bydd copiau Cymraeg a Saesneg ar gael.

Golygwyd y llyfr gan Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Datblygu Menter a Busnes sydd hefyd yn gyfrifol am reoli‘r prosiect Agrisgop, a David Pearce o Ysgol Fusnes Ashridge fu‘n gyfrifol am hyfforddi‘r tim o arweinwyr ar ddechrau‘r prosiect.

Mae‘r broliant ar glawr y llyfr yn nodi ei fod wedi‘i ysgrifennu o‘r galon gan y bobl a gymerodd ran, ac mae‘n datgelu eu gobeithion, ymdrechion, amheuon, ansicrwydd, llwyddiannau a threialon. Mae‘n ymwneud a‘r sialensiau newydd a wynebir gan y gymuned amaethyddol yng Nghymru.

Ysgrifennwyd y rhagair gan Elin Jones, sy‘n dweud: mae ffermwyr, ar y cyfan, yn barod iawn i dderbyn syniadau a sialensau newydd. Maent ar eu gorau‘n ymateb i gyfleoedd sy‘n codi o drafodaethau gan gyd-amaethwyr.

Bydd grwpiau o ffermwyr tebyg o ran meddylfryd, sy‘n dod at ei gilydd i ganfod atebion a nodi cyfleoedd, bob amser yn ysgogi gweithgaredd a gwelliannau i ddulliau ffermio neu gynhyrchedd ffermydd.

Mae dyfodol amaethyddiaeth yn nwylo‘r ffermwyr yn hytrach nag unrhyw Lywodraeth. Mae angen i ffermwyr Cymru lunio a chroesawu‘r dyfodol hwnnw gyda‘i gilydd.

Mae Agrisgop, sy‘n rhan o raglen Cyswllt Ffermio yn rhoi cyfle i aelodau o deuluoedd fferm i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder, eu syniadau a‘u cynlluniau ar gyfer eu busnesau.

Mae aelodau‘r grwpiau yn dysgu trwy gydweithio mewn grwpiau bach, gydag arweinwyr sydd wedi‘u penodi gan Menter a Busnes. Mae pob aelod yn ymuno ag Agrisgop i ystyried y posibiliadau ar gyfer y dyfodol a gellir trafod syniad am fusnes, problem neu gyfle sydd wedi codi, a‘i ddatblygu neu‘i oresgyn, ac mae‘r cyfan wedi ei selio ar y dechneg o Ddysgu Gweithredol.

Ers cychwyn y prosiect yn 2003 sefydlwyd dros 170 o grwpiau. Mae nifer o‘r grwpiau yma wedi datblygu amrywiaeth o fusnesau a mentrau newydd yng Nghymru gan gynnwys mentrau cydweithredol i werthu cig oen a chig gwartheg duon Cymreig, cynlluniau trydan dwr; te mewn hen sgubor, bragdy yn Sir Benfro, siop gigydd yn Merthyr Tydfil, grwp bio-danwydd yn Ninbych a chymdeithas newydd ar gyfer defaid mynyddoedd yr Epynt, i enwi ond ychydig.

Cymerwyd 2 flynedd i gwblhau‘r llyfr ac mae wedi‘i ysgrifennu mewn arddull storiol gan y rhai sydd wedi bod yn rhan o‘r cynllun o‘r cychwyn cyntaf. Mae‘r cynllun yn parhau i ffynnu ac yn ddiweddar wedi denu sylw rhyngwladol. Cyflwynir y llyfr i‘r diweddar Meinir Evans, un o arweinwyr cyntaf Agrisgop.

Dywedodd Eirwen Williams fod y syniad ar gyfer y llyfr wedi deillio o sylw gan Athro yn Ysgol Fusnes Henley mewn cynhadledd ryngwladol ar Ddysgu Gweithredol. Y mae‘n ffordd o olrhain hanes yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn yn ogystal, gobeithio, ag ysgogi ffermwyr eraill yn y dyfodol, dywedodd.

Mae Agrisgop yn parhau i ganolbwyntio ar deuluoedd amaeth yng Nghymru, gan eu galluogi i ddarganfod ffyrdd newydd o ddatblygu eu busnesau, dywedodd Eirwen Williams. Drwy weithio mewn grwpiau maent yn dysgu oddi wrth eu gilydd ac yn cael hyder i greu a datblygu syniadau busnes newydd a chyffrous.

Ein tasg ni yw dod a ffermwyr at ei gilydd ac i ofyn cwestiynau er mwyn dod o hyd i atebion sy‘n eu siwtio nhw. Mae‘r cynllun wedi cyflawni tipyn mwy nag oeddem wedi ei ragweld ar y dechrau.

Nodiadau

Bydd Hau Hadau : Medi‘r Newid yn cael ei lansio gan Elin Jones, Gweinidog tros Faterion Gwledig yn adeilad S4C ar faes y Sioe yn Llanelwedd ar ddydd Mawrth 20fed o Orffennaf am 11am. Bydd rhywun ar gael ar gyfer cyfweliadau yn Gymraeg ac yn Saesneg cyn ac ar y diwrnod.

Mae Agrisgop yn un o gynlluniau Cyswllt Ffermio sy‘n cael ei ariannu drwy‘r Cynllun Datblygu Gwledig 2007–13, a‘i gyllido drwy‘r Gronfa Amaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cysylltwch ag Eirwen Williams, Pennaeth Rhaglenni Gwledig, Menter a Busnes ar : 01970 636295; e-bost eirwen.williams@menterabusnes.co.uk neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar : 01686 650818 neu e-bost: duncan.foulkes@btinternet.com.